Rasio


Rasio gyda Rhedwyr Bwcle

Mae ein aelodau, yn ddynion a merched, yn cymryd rhan yn y rhan fwyaf o ffurfiau rhedeg pellter canol a hir. Maent yn cynnwys

 

Rhedeg Ffordd

Datblygu rhedeg ffordd oedd ein pwrpas gwreiddiol ac yn dal i fod yn bwysig i'r clwb. Mae unigolion o'r clwb yn mynychu nifer fawr o rasus ffordd (gan gynnwys pencampwriaethau) fel 10km Sir y Fflint, 5 Abergele, Hanner Marathon Conwy, Hanner Marathon Wrecsam, Twin Piers, 5 Gwanwyn Gaer, 10km Sutton.

Mae'r clwb yn yn cystadlu yng Nghyngrair Rhedeg Ffordd y Gororau. Mae'r rasus yma am ddim ar gyfer aelodau clwb sydd wedi ymaelodi gyda chymdeithas athletau priodol (fel arfer Athletau Cymru). Mae yna 7 ras fel arfer yng Nghyngrair y Gororau pob blwyddyn rhwng Hydref ac Ebrill.

 

Traws Gwlad

Rydym wedi bod yn cystadlu ynh Nghyngrair Traws Gwlad Gogledd Cymru ers tua 10 mlynedd. Mae'r rasus yma am ddim i aelodau sydd gyda Rhedwyr Bwcle fel eu clwb rhedeg cyntaf sydd wedi ymaelodi gyda chymdeithas athletau priodol. Mae yna tua 5 ras traws-gwlad rhwng Hydref ac Ebrill pob blwyddyn. mae unigolion a thimau yn cynrychioli'r clwb hefyd ym Mhencampwriaeth Traws Gwlad Gogledd Cymru a Phencampwriaeth Cymru a Phrydain i'r meistri.

 

Marathon a phellter Ultra

Mae aelodau ein clwb gyda hanes hir o gystadlu mewn rasus pellteroedd hir. Mae'r rhain yn cynnwys Marathon Llundain, Marathon Gaer a'r Marathon Metrig, marathonau eraill yn y DU a dramor, 50 Lakeland, 60 Hardmoors, Gwawr i Fachlud, a hyd yn oed rasus 24 awr. Mae gennym redwyr pellter hir profiadol iawn sydd o hyd yn barod i helpu eraill i gwblhau marathon neu i wella eu amser.

 

Aml-dir

Mae rhedeg ar dirwedd aml-dir yn apelio i nifer o'n aelodau clwb. Mae grwpiau yn hyfforddi ar lwybrau drwy'r flwyddyn. Rydym yn mynychu nifer o rasus aml-dir gan gynnwys Deestriders Off-road Grand Prix, Alwen Reservoir, Llyn Brenig a'r Halloween Hellraiser

 

Rhedeg Mynydd

Mae gennym grwp cryf sy'n rhedeg mynydd. Maent yn hyfforddi yn aml ar y bryniau a chystadlu mewn nifer eang o rasus gan gynnwys Cyfres Haf Bryniau Clwyd, Moel-y-Gamelin, Pen Fell, Cader Idris a Phencampwriaeth Rhedeg Mynydd Gogledd Cymru a Chymru