EIN ETHOS

Rydym yn glwb rhedeg cyfeillgar ar gyfer amrywiaeth eang o alluoedd o'r camau cyntaf i athletwyr elitaidd. Beth bynnag yw eich lefel, mae gennym redwyr eraill jyst fel chi ac mae pawb yn awyddus i'ch helpu i gyrraedd eich nod.

Yn gynwysiedig yn eich aelodaeth mae gennym grŵp o wirfoddolwyr a hyfforddwyr rhedeg ymroddedig sy'n cynnig cefnogaeth wythnosol, byddwch yn ran o dîm a nifer o gyfleoedd i gynrychioli'r clwb.

Mae ein gwefan wedi cael ei gynllunio i adlewyrchu ethos Rhedwyr Bwcle ac yn cael ei ddefnyddio gan aelodau a'r rhai sydd ddim yn aelod. Edrychwch o gwmpas, efallai ein bod yn glwb i chi.

Os oes gennych ddiddordeb bod yn ran o'n clwb rhedeg, dewch i un o'n sesiynnau hyfforddi i redeg, a sgwrs i ddarganfod mwy. Does dim angen bod yn bryderus - mae Rhedwyr Bwcle yn bodoli gan ein bod wrth ein bodd yn rhedeg ac rydym wrth ein bodd yn hybu eraill i redeg. Felly os ydych yn chwilio am gyfaill rhedeg, yn chwilio am PB neu eisiau hyfforddwr i'ch helpu gyflawni eich potensial, ac rydych dros 18, plis cysylltwch.

Mae aelodau Rhedwyr Bwcle angen ymuno Athletau Cymru. Mae opsiwn i ymuno fel "Cystadleuol" neu "Ddim yn gystadleuol".