Y Pwyllgor


Dyma bwyllgor etholedig ac arweinwyr y clwb ar gyfer 2023/24. I'ch helpu adnabod y criw, cliciwch ar eu henwau a gallwch eu cysylltu yn uniongyrchol trwy e-bost.

The club constitution can be viewed here >> BRC constitution

 

Cadeirydd

Charles Barton

Ers i Charles dderbyn cynnig ei wraig i ddod i un o nosweithiau hyfforddiant Clwb Rhedwyr Bwcle i weld os oedd yn mwynhau rhedeg, dydi o ddim wedi edrych nol. Y noson oer Aeafol hynny yn 2017 oedd dechrau ei fwynhad o redeg. Mae Charles yn wirioneddol caru'r gamp, y clwb a chymuned Bwcle. Ar ol ymuno'r clwb yn 2017/18, 'roedd Charles yn ei weld yn anrhydedd i gymryd yr awenau fel Cadeirydd yn 2023/24, yn dilyn gwasanaerh hir y cadeirydd blaenorol, Rob Mackey. Fel Cadeirydd, mae'n gyfrifol am gefnogi pob agwedd o'r clwb a gwneud yn siwr bod popeth yn cael ei wneud er fudd gorau y clwb.
Trysorydd

Sue Ridings

Ymunodd Sue Glwb Rhedwyr Bwcle yn 1997 ar ol cwblhau "Race for Life" a dyw hi byth 'di edrych nol. Mae hi'n parhau ei rol fel Trysorydd y Clwb, lle mae hi'n gyfrifol am edrych ar ol pob agwedd arianol y clwb. Mae ei rol yn cynnwys pob mater sy'n gysylltiedig gyda incwm a gwariant y clwb, mae hyn hefyd yn cynnwys adroddiadau ariannol a chynghori gweithgareddau tracio ynghylch gwariant.
Ysgrifennydd

Dave Wooton

Bydd gwybodaeth manwl Dave am rasio, cyflymder a phellter yn ddefnyddiol iawn yn ei rol fel ysgrifennydd y clwb, yn ogystal a'i sgiliau trefnu a'i agwedd ewyllysgar. Fel ysgrifennydd, mae Dave hefyd yn gyfrifol am elfennau weinyddol dyddiol y clwb a'r cyswllt rhwng y clwb ac Athletau Cymru i wneud yn siwr ein bod cyfarfod gofynion y corff llywodraethu.
Ysgrifennydd Aelodaeth

Becks Brown

Fel ein ysgrifennydd aelodaeth, mae Becks yn gyfrifol am holl faterion sy'n gyswllt i aelodaeth. Mae hyn yn cynnwys prosesu aelodau newydd, cysylltu gyda Athletau Cymru, trosglwyddiadau clwb ac ail-ymaelodaeth. Mae ffurflenni aelodaeth a throsglwyddiadau i'w gael ar ein gwefan, ond os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch Becks.
Arweinydd Datblygu

Eric Campbell

Mae ein Arweinydd Datblygu wedi bod yn rhedeg am flynyddoedd gyda nifer o lwyddiannau rhedeg arbennig yn ei sgil. Bydd hyn yn amlwg yn ddefnyddiol yn ei rol newydd fydd yn cynnwys rheoli a threfnu hyfforddiant o fewn y clwb. Gyda'i griw o arweinwyr rhedeg, y nod yw i wneud yn siwr bod y fframwaith yn galluogi pob aelod o'r clwb ddatblygu. Mae'r rol hefyd yn cynnwys trefnu, cyfathrebu a diogelu sesiynnau hyfforddiant y clwb.

Arweinydd y Cyfryngau a Chyhoeddusrwydd

Andrew Peers

Mae Andrew wedi bod gyda'r clwb am tua 5 mlynedd rwan ar ol cyfarfod criw o redwyr cyfeillgar Bwcle tra;n rhedeg ar ben ei hun. Mae ganddo gefnder TG a chafodd ei benodi yn ddiweddar i edrych ar ol gwefan y clwb, a sy'n gyfrifol am ryngweithiadau'r clwb gyda'r cyhoedd drwy weithredu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Arweinydd Digwyddiadau Cymdeithasol

Claire Campbell

Mae sgiliau trefnu manwl Claire yn ei gwneud yn berffaith ar gyfer ei rol fel Pennaeth Digwyddiadau Cymdeithasol. Mae Claire yn gyfrifol am yr holl ddigwyddiadau sydd ddim yn ymwneud a rhedeg fel nosweithiau cymdeithasol y clwb, cyfarfodydd blynyddol a rheoli costau.

Swyddog Lles y Dynion

Jez Brown

'Roedd Jez yn aelod iau o Redwyr Bwcle rhai blynyddoedd yn ol, ac mae nawr wedi ail-ymuno fel rhedwr fet, ac wedi bod yn aelod brwd ers 2007. Mae Jez wrth ei fodd yn rhedeg trwy mwd neu rhedeg fyny mynydd neu ddau. Mae hefyd yn mwynhau rhedeg ar y ffyrdd o bryd i'w gilydd ac yn rasio'n aml.

Mae Jez wedi gweithio fel gweithiwr cymdeithasol ers dros 20 mlynedd, yn fwy diweddar yn yr adran cyfiawnder ieuenctid. Mae diogelu yn gyfrifoldeb pawb gyda rol y swyddog lles yn cynnwys goruchwilio polisiau, rhannu gwybodaeth ac ymateb i unrhyw bryder a gaiff ei rannu ag ef o ran yr aelodau i sicrhau bod plant, oedolion sy'n agored i niwed ac unrhyw aelod o'r gymuned yn ddiogel. Mae mwy o fanylion am y rol a sut i dderbyn cyngor i'w ddarganfod yn adran lles y wefan.

Swyddog Lles y Merched

Nicole van den Wittenboer

Fe ddechreuodd Nicole redeg gyda chlwb canolfan hamdden yn 2006 tra'n byw yn De Manceinion. O'r decharu, ers iddi lwyddo i ddal i fynd am 5k, sylweddolodd Nicole yn gyflym ei bod hapusach yn rhedeg pellteroedd hirach. 6 mis ar ol ymuno a'i chlwb, rhedodd Nicole ei hanner marathon cyntaf a 18 mis wedyn, cwblhaodd ei marathon cyntaf. Rhwng 2008 a 2015, rhedodd 8 marathon mewn llefydd arbennig yn y byd gan gynnwys Llundain, Berlin ac Efrog Newydd.

Yn 2014, symudodd Nicole i Benarlag ac ymuno a Rhedwyr Bwcle. Erbyn hyn, gyda theulu a 2 o feibion oedran ysgol cynradd, newidiodd ei ffocws oddi arni hi i chwaraeon ei meibion, oedd yn cynnwys karate, hoci, sglefrio ia a thrampolin. Yn ffodus, mae'r teulu i gyd erbyn hyn wedi cymryd rhan yn ParkRun Wepr sydd wedi ysgogi y teulu i gyd i fwynhau rhedeg.

Y dyddiau hyn, mae ei rhedeg yn araf ac yn waith caled, haha, ac mae'n mwynhau hybu pobl eraill i redeg. Mae'n well ganddi redeg mynydd ar y bryniau hardd lleol. Cysylltwch Nicole os gwelwch yn dda os ydych a diddordeb ymuno a'r cynllun 'Couch to 5K' ar gyfer rhedwyr newydd.

Capten y Dynion

Chris Callaghan

Byddwch yn dod o hyd i Cally ar flaen y pac. Gyda'i arddull rhedeg hapus a hamddenol mae Cally yn gwneud iddo edrych yn hawdd. Mae o'n hynod o gymdeithasol ac o hyd yn d'eud be sydd angen ei ddweud sy'n ddefnyddiol iawn yn ei rol fel capten y dynion. Mae'n gyfrifol am gasglu'r dynion at eu gilydd ar gyfer rasus clwb, sgil sydd hefyd yn cael ei gyferio at fel bugeilio cathod!!

Capten y Merched

Jane Doughton

   Dechreuodd Jane redeg tua 15 mlynedd yn ol a bu'n trotian ar ben ei hun hyd at 2017. Dyma pryd y cafodd ei ysgogi i ddod draw i Redwyr Bwcle a dydi hi ddim wedi edrych nol ers hynny. Mae Jane wrth ei bodd yn gwisgo ei fest glas i gynrychioli y clwb yng Nghyngrair y Ffin a Thrawsgwlad Gogledd Cymru a does dim byd gwell ganddi na gweld ysbryd arbennig y tim mewn rasus. Yn fwy diweddar mae Jane wedi cael y fraint o gynrychiolo Cymru a Gogledd Cymru ac mae hi'n credu yn gryf bod y cyfleoedd hyn wedi cael eu cynnig iddi oherwydd yr hyfforddiant, cefnogaeth a'r cyfeillgarwch mae wedi ei dderbyn ers ymuno Bwcle.

  Cyfarwyddwr Ras

Phil Tugwell

Phil yw ein Cyfarwyddwr Ras ar gyfer Cynghrair y Ffin. Mae hyn yn golygu ei fod yn gyfrifol am drefnu'r ras a hefyd sicrhau bod popeth yn mynd yn iawn ar y diwrnod.

Cynrychiolydd Trawsgwlad

Simon Roberts

Yn aelod Rhedwyr Bwcle ers 2005, mae Simon wedi rhedeg dros 700 o rasus yn y fest glas. Mae'n mwynhau pob math o redeg, o redeg trac i redeg ffordd, rhedeg mynydd i ultra - sydd efallai'r rheswm nad yw'n dda iawn ar run ohonynt!! Mae'n credu'n gryf mai peint o gwrw yw'r adferiad gorau ar ol rhedeg. Mae Simon hefyd yn awdur "Fell Running in Wales" ac yn ceisio ei orau i gasglu holl ganlyniadau'r aelodau.

Cynrychiolydd Rhedwyr Mynydd ac Aml-Dir

Amanda Boyd

I Amanda, mae rhedeg yn weithgaredd cymdeithasol - unai tra'n rasio neu jyst cyfarfod ar nosweithiau Mercher neu unrhyw siawns posib. Mae Amanda yn mwynhau pob math o redeg ond mai well ganddi'r llwybrau a'r bryniau ac fe'i gwelir yn aml yn rhedeg o amgylch bryniau Clwyd ar ben ei hun gyda'i chi bach. Dylse bod rhedeg yn hwyl ac yn aml cewch ddod o hyd i Amanda yn chwilio am dafarn lleol ar ol ras er mwyn ymlacio.
Cynrychiolydd Cynghrair y Gororau

Eric Campbell

Yn ogystal a chyfrifoldebau arweinydd datblygu, Eric yw ein cynrychiolydd ar gyfer Cynghrair y Gororau. Mae hyn yn cynnwys bod yn gyswllt ar gyfer holl faterion y gynghrair yn ogystal a mynychu'r cyfarfod blynyddol ar ran Rhedwyr Bwcle, gan sicrhau fod pob rhedwr sydd eisiau cymryd rhan yn deall y drefn.
Pencampwriaeth y Clwb

Dave Wootton

 

 

Fel ein swyddog pencampwriaeth y clwb, mae Dave yn gyfrifol am sicrhau fod pencampwriaeth y clwb yn cael ei ddiweddaru gyda rasus 2023-2024 ac yna cyfrifo a diweddaru'r sgorau yn aml.